Mae gan y Cyfarfod Rhanbarth pum cwrdd.  Ceir ynddo y tŷ cwrdd cyntaf i'w adeiladu yng Nghymru. (Dolobran yn 1700.) 

 

Rhy cyrddau'r Crynwyr gyfle i bawb ddarganfod eu taith ysbrydol mewn awyrgylch agored anfeirniadol, gyda lle i ymchwilio cred a gwerthoedd heb ddisgwyliadau caled diwinyddol. Cartref ysbrydol i ddatblygu ymwybyddiaeth o'r dwyfol ymhob peth gyda'r dymuniad hefyd i newid y byd er gwell. 

 

Ceir gwybodaeth am gyrddau lleol ar y tudalennau yma, gwybodaeth am y cwrdd addoli, newyddion am ddigwyddiadau a'n gwaith i hybu heddwch yn yr ysgolion. Cedwir drws agored i unrhyw un ddymuna ymuno a ni yn ein cyrddau.

 

Mae’r Cyfarfod Rhanbarth yn rhan o Gyfarfod Blynyddol Prydain a Chyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru.

 

Dywed y Crynwyr:
Fod rhywbeth o'r dwyfol ymhob un, A phob un yn gyfartal gerbron Duw