Cynhelir Cyfarfod Addoli Llanidloes ar y Sul cyntaf a'r trydydd Sul am 10:45 yn yr ysgoldy, Eglwys y Drindod, Stryd Shortbridge, Llanidloes SY18 6AD.
Mae'r ysgoldy tu ôl i'r eglwys (i fyny'r llwybr ar ochr chwith yr eglwys). Mae gennym ramp i ddrws ein hystafell Gyfarfod ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn ac yna un cam i'w dramwyo. Bydd cymorth ar gael. Mae toiled gyda mynediad i'r anabl trwy ddrws arall tu allan i'r adeilad. Mae gennym ddolen glyw gellir ei symud. Does dim Cyfarfod Plant gyda ni fel arfer ond os gwyddom fod plant yn dod fe baratown at hynny.
Ar yr ail Sul, am 8.30, bydd Cyfarfod Addoli dros Zoom. Ffoniwch 01686 650326 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. i dderbyn y ddolen.
Ar hyn o bryd ar y pedwerydd Sul rydym yn cyfarfod yn y Drenewydd, yn ystafell gymunedol Mill Close am 10.45. Am wybodaeth cysylltwch â’r uchod.
Ar y pumed dydd Sul holwch fel y nodir isod.
Ffoniwch un o’r rhifau isod os ydych yn dod â phlant neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill am ein Cyfarfod.
01686 413668
01686 650326